Phillipa Klaiber

THE LAND IS OURS


Ymweld â’r wefan

Dros gyfnod o dair blynedd, cofnodais dwf a dinistr cymuned yn y goedwig, cymuned a geisiai fyw yn hunangynhaliol ar seiliau ecolegol cadarn. Roedd y grŵp yn cynnwys nomadiaid, sgwatwyr dinesig ac eco-ffermwyr ac roeddent yn credu mewn cydraddoldeb heb hierarchaeth. Doedd hi ddim yn gwbl eglur pwy oedd yn berchen ar y tir lle’r oeddent yn byw – roedd y tir hwnnw eisoes yn wag ers blynyddoedd. Yn ystod pedair blynedd y setliad, wynebodd y gymuned fygythiadau parhaus. Yn 2013, cafodd yr hawl i feddiannu’r tir ei brynu gan filiwnydd lleol er mwyn iddo gael ei ddatblygu. Arweiniodd hynny, yn y pen draw, at daflu’r gymuned oddi ar y fan, dair blynedd yn ddiweddarach.

Mae ein cymdeithas yn hyrwyddo sefydliadau sy’n seiliedig ar ddatgymalu; mae’n gwneud hynny trwy’r cyfryngau, trwy gyfrwng yr economi a thrwy gyfrwng ideoleg. O ganlyniad, rydym yn cael ein datgysylltu o’r tir ac yn dyfnhau ein dryswch ynglŷn â’r hyn y mae bod yn ‘drigolion y ddaear’ yn ei olygu. Mewn ymgais i ddadwneud gweithredoedd y gorffennol ac i adennill ychydig o’r hyn a gollwyd, mae yna ymgyrchoedd amgylcheddol ledled y byd. Ond, i lawer ohonom, cysyniad haniaethol yw’r ‘hinsawdd’. Dim ond o fyw ar y tir a dibynnu arno go iawn y gellir ailgysylltu ag ef.