Alexander Anufriev

Russia Close-Up


Ymweld â’r wefan

Cefais fy magu yn y Rwsia fodern, heb brofiad o’r Undeb Sofietaidd y tu ôl i’r Llen Haearn, heb brofiad personol chwaith o’i sensoriaeth a’i phropaganda. Ond mae’r bwlch hwn yn fy mhrofiad fel petai’n cael ei lenwi gan yr hyn a ddigwyddodd yn Rwsia dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

A’r gymdeithas yn wleidyddol ddifater, mae yna brosesau mewnol ar waith nad ydynt yn amlwg i weddill y byd: newidiadau crefyddol, gorfodi gwladgarwch a chenedlaetholdeb ar bobl, cryfhau mecanweithiau sensoriaeth a phropaganda.


Mae’r gyfres hon yn ymgais i ddelweddu’r prosesau hyn. I geisio diweddaru’r ddelwedd o Rwsia a chael gwybod beth sy’n diffinio’r wlad heddiw.