Blazej Marczak

The Neighbours


Ymweld â’r wefan

Mae The Neighbours yn bortread o gymdeithas gyfoes ac amlddiwylliannol yr Alban. Mewn byd newydd o gysylltedd a chyfnewid byd-eang, gall unrhyw un fod yn gymydog i chi, waeth bydd fyddo’i genedligrwydd, ei gefndir diwylliannol neu ei gefndir crefyddol. Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig cofnodi’r amgylchiadau presennol ac ystyried sut y mae digwyddiadau’r gorffennol yn siapio ein byd. Mae’r hinsawdd wleidyddol bresennol fel petai’n erydu buddion cymdeithas amrywiol ac roeddwn i eisiau dogfennu arwyddocâd y mosaig diwylliannol ac amrywiol hwn. Mae rhesymau pobl dros fudo yn amrywiol – o resymau gwleidyddol ac economaidd i chwilfrydedd ac awydd i grwydro. Fy nod oedd dangos yr amrywiaeth hon drwy gyfarfod â a thynnu lluniau o bobl a symudodd o wledydd eraill i ymsefydlu yn yr Alban. Trwy dynnu lluniau a chyfweld â’r bobl hyn yn eu bydoedd preifat, ceisiais ddangos rhai agweddau ar eu bywydau ac annog y gwyliwr i gyrraedd ei ganlyniadau ei hun. Er mwyn tynnu sylw at y ffaith nad yw ymfudo a chymdeithasau amlddiwylliannol yn bethau newydd, gwnes waith ymchwil ar y cymunedau a’r unigolion a ddaeth i’r Alban flynyddoedd lawer yn ôl. Mae milwyr o Wlad Pwyl a arhosodd yma ar ôl yr Ail Ryfel Byd neu’r teuluoedd Iddewig a ymsefydlodd yn yr Alban yn y 19eg ganrif neu ar ôl yr ail ryfel byd yn enghreifftiau da o bobl o’r fath.

 

Rhan yn unig yw’r enghreifftiau hyn o stori amlddiwylliannol fwy o lawer y genedl hon yng ngogledd Ewrop. Ni allwn anghofio cysylltiadau’r Alban â gwledydd Asia, Affrica a’r Gymanwlad – gwledydd sydd yn ganlyniad uniongyrchol i orffennol trefedigaethol yr Ymerodraeth Brydeinig. Ac wrth gwrs mae yna hanes hir a chyfoethog o ddylanwadau a chyd-ddibyniaeth rhwng pobl Cymru, Lloegr, Iwerddon a’r Alban. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ddisgynyddion i ymfudwyr neu yn ymfudwyr ein hunain ac mae hanesion o bob gwlad, hyd yn oed y rhai mwyaf pellennig, yn dod at ei gilydd mewn pobl a oedd, pobl sydd a phobl a fydd o hyd yn symud o gwmpas y byd. Mae pob un ohonom yn hanu o rywle.