Cassi Alexandra

We Are Family


Ymweld â’r wefan

Y gyflafan a ddigwyddodd yng nghlwb nos hoyw Pulse yn Orlando, Florida ym mis Mehefin 2016 yw cyd-destun ‘We Are Family’. Hwn oedd yr ymosodiad mwyaf enbyd a brawychus yn erbyn pobl LGBT yn hanes America. Mae’r arddangosfa’n archwilio’r ymateb i drais a’r broses mae cymuned yn mynd drwyddi wrth godi’n ôl ar ei thraed wedi cyflafan dorfol yn America lle caiff cymaint eu saethu’n farw neu eu hanafu’n ddifrifol. Amcan penna’r arddangosfa yw cyfryngu profiad cymuned wedi’i llethu â galar. Ond roeddwn hefyd am edrych ar beth mae Americanwyr yn ei dderbyn bellach fel rhan arferol o’n diwylliant a bwrw golau ar yr etifeddiaeth niweidiol yr ydym yn ei gadael i genedlaethau’r dyfodol.