Cesar Dezfuli

PASSENGERS


Ymweld â’r wefan

Ar y 1af o Awst 2016, achubwyd 118 o bobl o fwrdd cwch rwber a oedd ar fympwy tonau Môr y Canoldir, 20 milltir o arfordir Libya. Un yn unig oedd hon o blith canoedd o gychod a gafodd eu hachub gan Wylwyr Glannau’r Eidal a Chyrff Anllywodraethol (NGOs) a fu’n gweithio yn yr ardal yma’n ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r awdurdodau wedi bod yn rhyddhau datganiadau am rifau tebyg bob dydd ers i’r argyfwng dyngarol yma gychwyn ym Môr y Canoldir; a dyma’r rhifau hefyd sy’n cael eu lledu gan y cyfryngau. Ond pwy yw’r bobl y tu ôl i’r rhifau yma?

Tynnwyd ffotograffau portread o bob un oedd ar fwrdd y cwch rwber fel rhan o’r prosiect yma. Cafodd y lluniau eu tynnu yn y munudau ar ôl cwblhau’r gwaith o achub y teithwyr – unwaith yr oedd pob un ohonynt yn ddiogel ar fwrdd y llong achub.Ymgais yw’r prosiect yma i roi wynebau ac enwau i’r rhifau, i geisio canfod gwedd ddynol y drychineb. Mae’r achubwyr a’r teithwyr yma gyda’i gilydd; y bobl a fu’n rhan o’r ymgyrch achub yma, yr un ymgyrch achub arall yma a ddigwyddodd ynghanol Môr y Canoldir ar y 1af o Awst, 2016.