David Boultbee – BREAD art

THE GLASS WORK


Ymweld â’r wefan

Mae ‘The Glass Work’ yn gwrando am eich trydariad ac yna’n chwarae’r llun yr ydych wedi ei ddanfon ar gongiau gwydr.

Mae gan bob gong draw gwahanol, ac mae’r dôn sy’n cael ei chwarae’n dibynnu ar liwiau’r picseli sydd ymhob llun. Wrth i’r gongiau gael eu taro mae goleuadau tu fewn iddynt yn fflachio. Mae hwn yn waith sy’n weledol ac yn sonig.

Mae pob llun yn swnio’n wahanol, ond mae’n amhosib dyfalu beth oedd y llun gwreiddiol. Hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres o ddarnau sy’n archwilio sut yr ydym yn storio, dirnad a phrofi holl rychwant y data a’r wybodaeth sy’n chwyrlio o’n cwmpas.

Yn gynyddol rydym yn ildio, rhannu ac ymddiried mwy a mwy o’n manylion a’n data gwerthfawr i’r ‘cwmwl pell nad yw’n bod’. Dyw’r holl wybodaethau yma bellach yn ddim mwy na nwyddau bob dydd: Rhywsut, er ein bod ni’n byw mewn trochfa o ddata a gwybodaeth, dydyn ni ddim fel petai ni’n deall yn llwyr sut yn union y caiff y gwybodaethau yma eu cyfryngu: Pwy sydd bia nhw, ydyn nhw’n cael eu cadw’n ddiogel ac a fyddan nhw ar gael i ni am byth?

Rydyn ni’n dal i gwyno am delefarchnata a spam er ein bod ni’n hollol hapus i gysylltu dyfeisiadau sy’n cario holl bopeth ein bywydau, trwy gysylltedd WiFi bregus mewn caffis ac ar fysiau, i rwydweithiau corfforaethau amlwladol anhysbys.

Mae ‘The Glass Work’ yn cymryd eich data a’i gyfryngu’n gyhoeddus ar ffurf ffotonau a datseiniadau gan ddiystyru’ch preifatrwydd yn llwyr. Er bod y seiniau’n distewi’n raddol, mae pob trawsyriant yn goroesi yn y gofod lle cafodd ei greu – yn atseiniau’r adeilad ac yn atgofion y rheini sy’n bresennol.

Mae ‘The Glass Work’ yn ddarn trawiadol, chwareus a rhyngweithiol; yn ddarn sy’n troi data’n brofiad synhwyrus tra hefyd yn ein cymell ni’n dyner i gwestiynnu natur ein perthynas ag ef – pa werth a rown arno, sut yr ydym yn gofalu amdano a sut yr ydym yn ei rannu ag eraill?

Mae’r gongiau’n eistedd tu fewn i faen hir pigfain – ffurf sy’n adleisio siap simnai ffwrnes gweithiau gwydr St Helen’s. Mae’n ffurf sy’n gwyro gyda’r un hyder pensaernïol â meysydd parcio Brutalaidd y dref. Roeddem yn rhagweld y byddai’r darn hwn yn dychwelyd yn ôl i blith y meysydd parcio hynny rhyw ddydd – er mwyn gallu edrych allan dros St Helen’s a chanu cân y dref yn ôl iddi.

Dyma’r gwaith diweddaraf mewn cyfres lle mae’r artist yn cyfannu data a Twitter i greu gweithiau celf rhyngweithiol – cyfres a ddechreuodd gyda ‘Ffotohive’, a gomisiynwyd ar gyfer Diffusion 2013. Gellir mewnosod y gwaith fel y mae, ond mae sawl modd hefyd i’w ddatblygu ar gyfer gŵyl eleni. Fe allai er enghraifft seinio ac arddangos casgliadau o ffotograffau o wahanol rannau o Gaerdydd – gan chwarae ‘cân y ddinas’. Hefyd gellid ei ddefnyddio i greu gweithdai i ysgolion a grwpiau cymunedol – yn sail i brosiectau gwerthfawr yn archwilio ardaloedd a chymunedau lleol.

Comisiynwyd ‘The Glass Work’ gan FACT a Heart of Glass. Cafodd y gwaith ei ddatblygu mewn cydweithrediad gyda phobl ifanc St Helen’s ac mae’n adlewyrchu’r siwrneiau y buom ni arnyn nhw gyda’n gilydd a’r bobl y gwnaethom ni gyfarfod ar hyd y ffordd.

Cafodd yr elfennau gwydr eu datblygu a’u gweithgynhyrchu gan chwythwyr World of Glass yn St Helen’s – un o bartneriaid y prosiect.  Bu’r gwaith ar daith i ganolfannau cymunedol St Helen’s cyn cael ei fewnosod yn FACT yn Lerpwl ym mis Tachwedd 2016.