Demetris Koilalus

CAESURA


Ymweld â’r wefan

Casgliad o ffotograffau’n adlewyrchu natur dros dro bywydau’r ffoaduriaid a’r mudwyr sy’n cyrraedd Gwald Groeg wedi croesi’r Môr Aegeaidd yw “Caesura”: Pobl ar ffô o’u mamwledydd yn Asia ac Affrica – yn ceisio cyrraedd Ewrop.

Caesura” yw’r saib byr ar ganol llinell o farddoniaeth, neu’r saib mewn pennill neu fynegiant cerddorol lle mae un cymal yn gorffen cyn i’r nesaf gychwyn. Yn y cyd-destun yma mae’n gweithio fel trosiad am saib o dawelwch rhwng dau gyfnod o ‘brysurdeb’ croch mewn naratif sy’n ffyrnig a llawn gofid.   

Mae rhyw elfen rithiol i gymeriadau “Caesura” wrth iddynt oedi am ennyd ar gyfer y camera mewn ffrâm fyrhoedlog ac ansicr. Mae rhyw amwysedd amdanynt – ymdeimlad o aflonyddwch a heddwch, o fyrhoedledd a hirhoedledd – fel petai nhw’n bodoli y tu hwnt i amser. Maent yn sefyll yn stond rhwng dau gyflwr seicolegol, bron fel petai nhw ynghrog rhwng dwy ennyd doredig.

Mae lleoliadau’r ffotograffau hefyd yn anelwig, yn ymylol ac anhysbys. Ond er nad oes unrhyw dirnodau amlwg yma, mae hwn yn gyd-destun tirweddol diriaethol a phenodol. Mae hwn yn fan a lle sydd rhwng mannau a llefydd, yn fwlch dros dro mewn amser – yn enghraifft o gyflwr archdeipaidd lle mae bywyd, fel dywedodd Wittgenstein, yn digwydd “y tu hwnt i ofod ac amser”.

Nid torf o bobl ddi-enw yw cymeriadau “Caesura”: Nid rhyw giwed anhysbys sydd yma – fel y darlunir yn aml gan y cyfryngau. Mae’r rhain yn bobl o gig a gwaed. Mae ganddynt enwau a chymeriad ac wynebau cyfarwydd. Ym myw eu llygaid fe welwn ddewrder, penderfyniad a stamina. Ond er eu bod wedi’u dal yng ngwyll trist y tirlun ymylol yma, er eu bod ar wahan ac ar y tu allan, yn ddiarwybod iddynt maent wedi gosod eu hunain ynghanol prif ffrwd y naratif,

Mae “Caesura” yn gasgliad o straeon ac eiliadau personol pobl sydd wedi’u dal gan amser mewn gofod niwtral rhwng dau le: Yn oedi cyn parhau â’r siwrne gan greu a chynnal bydoedd bach dros dro ar hyd y ffordd i ddiogelu ac amddiffyn clymau teulu a chyfeillgarwch: Cynnal a chadw perthynas a hen egwyddorion cynoesol a atgyfnerthir wrth iddynt ymgasglu, yn symbolaidd a diriaethol, o amgylch aelwydydd gan ddal gafael mewn gwerthoedd cymdeithasol a chyfunol.

Nid yw ffotograffau “Caesura” yn dangos dioddefaint pobl er mwyn ceisio cynnig atebion na gwneud datganiad hanesyddol am yr ymadawiad torfol enbyd yma, yn hytrach maent yn codi cwestiynau am y cyflwr dynol ac am hunaniaeth.