Diane Meyer

BERLIN


Ymweld â’r wefan

Am nifer o flynyddoedd, bu Diane Meyer yn gweithio ar gyfres o ffotograffau wedi’u brodio â llaw yn dilyn cylchedd 104 milltir Mur Berlin yn ei gyfanrwydd. Mae rhannau o’r ddelwedd wedi’u cuddio gan frodwaith pwyth croes wedi’i frodio yn uniongyrchol ar y ffotograff. Mae’r brodwaith wedi’i greu i ymdebygu i bicseli ac mae’n benthyg yr iaith weledig o ddelweddu digidol mewn proses analog, wnaethpwyd â llaw. Yn ogystal â’r nodweddion corfforol sy’n cyfeirio at y cyn-raniad yn y ddinas, ron i â diddordeb yn y pwysau seicolegol yn y safleoedd hyn a’r modd y mae cyn hanes yn parhau’n gryf yn y presennol.

Drwy gael y brodwaith i gymryd ffurf y picseli digidol, mae Meyer yn creu cysylltiad rhwng anghofio â llygredd ffeiliau digidol. Mae ei diddordeb yn gorwedd yn natur dyllog y cof yn ogystal â’r modd y mae ffotograffiaeth yn trawsffurfio hanes i wrthrychau hiraethus sy’n cuddio dirnadaeth wrthrychol o’r gorffennol.