Hiro Tanaka

Around 42nd and 7th


Mae Times Square yn Efrog Newydd yn denu pobl o bedwar ban byd. Mae’r lle yn rhoi’r argraff i mi fod yno bethau o bob math ac o bob man.  Mae’r ffiniau rhwng pobl – ffiniau gwleidyddol neu bersonol, ffiniau hil, rhyw, pellter ac amser, ynghyd â synau, arogleuon, emosiynau a phob math o weithgareddau eraill yn dod at ei gilydd yn un llif diddiwedd. 

Mae gan bob un ei syniad ei hun o werthoedd ac o’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw. A oedd sefyll yn Times Square yn foment arbennig i’r bobl hyn neu’n rhan o brofiad bob dydd?  

Ac mae hynny’n gwneud i mi ystyried – i ble mae’r bobl yma’n mynd? O ble maen nhw’n dod? Beth sy’n cael ei adlewyrchu yn eu llygaid? Beth sydd yn eu meddyliau?