Isaac Blease

CHARAXES IMPERIALIS


Mae pobl ifanc heddiw yn cwestiynnu a chraffu’n galed ar ein hetifeddiaeth ymerodrol. Mae’n gyfnod yn ein hanes a gyflwynwyd i ni fel rhyw oes aur, ond bellach mae gennym ogwydd gwahanol ar ei natur dreisgar. Bu’r tueddiad hanesyddol bwriadol yma i wyrdroi hanes ein trais ymerodraethol yn sbardun i nifer o fudiadau gwleidyddol a chelfyddydol cyfoes – er engraifft, ‘Rhodes must fall’. Yn y prosiect yma, rwy’n cyflwyno fy nghyfraniad innau i’r drafodaeth ôl-drefedigaethol. Fy mwriad yw craffu ar yr etifeddiaeth ymerodrol honno, sy’n dal yma o’n hamgylch mewn cymaint o ffurfiau a chyd-destunnau hanesyddol a chyfoes.

Wrth wraidd fy mhrosiect mae casgliad o löynod byw o Affrica a adawyd i mi gan fy nhadcu. Yn ‘Charaxes Imperialis’ rwy’n edrych ar ba mor debyg yw’r broses o ddal, trefnu a chadw Lepidoptera i brosesau ideolegau ymerodrol – gorchfygu, rheoli a chaffael tiriogaethau.

Ces fy nharo gan y tebygrwydd rhyngddyn nhw wrth archwilio a dadansoddi casgliad fy nhadcu: Yn gynyddol fe ffeindiais fod fy syniadau rhamantaidd blaenorol am y cyfandir yn gwrthdaro gyda’r ffotograffau a’r darlun o’r cyfnod a welwn o ‘mlaen: Ffotograffau’n dangos Africa fwrdeisdrefol ac ataliedig lle’r oedd aelodau’r gymuned alltud yn gwneud beth bynnag y mynent.

Yn raddol, wrth bori trwy’r casgliad roeddwn yn gweld sut yr oedd y dewis yma i anghofio am yr holl staeniau meddyliol a chorfforol a adawyd gan Brydain yn Africa yn amlygu ei hun, yn weledol a throsiadol, yn nulliau digyfaddawd a methodoleg casglu glöynod byw. Tynnwyd y delweddau rwy’n eu dangos yma wrth i fi ddilyn ô traed a llwybrau fy nhadcu a’r nodiadau a wnaed ganddo fel rhan o’i gasgliad o löynod byw.