James A. Hudson

NOTHING TO WORRY ABOUT


Ymweld â’r wefan

‘Bydd dinasoedd sydd ddim yn addasu i ni yn mynnu ein bod ni’n addasu iddyn nhw. Dim ond alltudiaeth neu ddieithrio sy’n aros unrhyw un sy’n methu neu’n gwrthod addasu’.

Mae ein dinasoedd yn tyfu a thyfu. Mae lleiniau arian a llwyd yn lledu gan glymu hen drefi ynghyd nes bod dim gwyrddni i’w weld yn unman, dim ond concrit. Mae’r coed yn crebachu i ffitio ar batios. Mae adeiladau bach yn saethu tua’r entrychion tra bod coed mawr yn cael eu gwasgu i ffitio i dybiau plannu – eu  hadlewyrchiadau’n chwifio atom trwy wydr, neu’n fflachio’n ffotograffau ar ein sgriniau. Rydym yn gweld gwyrddni ym mhicsilau iraidd pennau’r coed. Modfeddi ac onglau yw maes brwydr y pensaer a chaiff welydd eu codi’n uchel gyda llygaid sy’n gweld popeth a gatiau trydan. Ac yn arnofio uwch y cyfan, yn y gofod mae’r lloereni – yn ein gwylio ni i gyd wrth gylchdroi’n dawel bach drwy’r diwybod di-derfyn.