Kiki Streitberger

Travelling Light


Ymweld â’r wefan

Yn 2015 fe fentrodd bron i 150,000 o ffoaduriaid ar y siwrne enbyd o beryglus ar draws Môr y Canoldir i’r Eidal. Amcangyfrifir y bydd hyd yn oed mwy yn mentro arni yn ystod 2016 – y nifer mwyaf erioed. Mae’r Syriaid yn galw’r daith yn “Siwrne tua Marwolaeth”: Hyd yn hyn eleni, bu farw bron i 4000 o bobl ar y daith hon. Yn gyfnewid am arian mawr maent yn rhoi’u bywydau yn nwylo’r smyglwyr sy’n addo eu cario’n ddiogel ar draws y môr. Yr unig obaith sydd ganddynt – wedi’u gwasgu i gwch bychan hollol anaddas, drwy’r oriau maith a’r dyddiau heb fwyd na dim i’w yfed – yw y daw rhywun i’w hachub cyn i’r cwch suddo.
Pwy yw’r bobl yma sy’n mentro’u bywydau ar ddyfroedd peryglus Môr y Canoldir? Yn Travelling Light mae Streitberger yn mynd ar eu trywydd i ddarganfod beth mae pobl sy’n gadael popeth er mwyn mentro ar daith mor enbyd yn llwyddo i’w gario gyda nhw i’w byd newydd, a beth mae’r eitemau hynny’n golygu iddynt.