Marc Wendelski
Beyond the Forest
Yn rhanbarth Hambach yn y 1970au, gerllaw un o fwyngloddiau brig mwyaf Ewrop, roedd yna goedwig o ryw 4000 hectar. Bu’r goedwig yno ers miloedd o flynyddoedd. Ond yn ystod y degawdau diwethaf, mae rhan helaeth ohoni wedi ei llyncu gan y gwaith glo.
Ym mis Mai 2012, aeth grŵp protest i wersylla yng nghoedwig Hambach er mwyn ymgyrchu yn erbyn polisi grŵp RWE ac i atal yr hectarau diwethaf o goed rhag cael eu difetha.
Ger y pwll, reit wrth ymyl y goedwig, fe adeiladon nhw lochesi o bren, gwellt a chlai. Roedd platfformau a siediau yn y coed yn gysgod i’r protestwyr am fisoedd lawer. Ym mis Tachwedd, daeth yr awdurdodau i’w gorfodi nhw oddi ar y safle.
Ar ôl pedwar diwrnod o wrthwynebu, cafodd yr ymgyrchydd diwethaf ei yrru allan o’r twnnel lle roedd yn cuddio ac fe chwalwyd y gwersyll. Ychydig oriau yn ddiweddarach, fodd bynnag, cafodd gwersyll newydd ei sefydlu, mewn cae ychydig yn bellach i fyny, yn ymyl coedwig Hambach.
Ers hynny, daeth llu cyson o brotestwyr i’r fan, o bob rhan o’r Almaen ac o wledydd eraill yn Ewrop. Bob dydd maent yn wynebu bygythiadau’r awdurdodau.