Marisa Culatto

LOST IN TRANSLATION


Ymweld â’r wefan

Mae fy mherthynas â’r DG yn estyn yn ôl i flynyddoedd fy mhlentyndod, ac i ochr Brydeinig fy nheulu. Cefais fy ngeni ar yr Ynysoedd Dedwydd, yn ddinesydd Sbaenaidd felly. Serch hynny, symudais rhwng y ddwy wlad ar hyd fy mywyd, a byw a gweithio yn y ddwy yn ôl fy nymuniad. Prydeiniwr yw fy mhartner ac mae gennym ddau o blant dwyieithog a ddeuddiwylliannol. Bron nad ydw i’n rhan ddigamsyniol o wead cymdeithasol a diwylliannol Prydain. Ond mae yna un rhan o’r diwylliant hwnnw na allaf ei ddeall: Criced! Mae pobl wedi esbonio’r rheolau wrthyf ar fwy nag un achlysur – ond dw i ddim yn gallu eu deall.

Ond yna daeth Brexit … Ac agorwyd Blwch Pandora emosiynol. Dw i’n teimlo fel petawn i wedi cael fy ngwrthod, mae’n teimlo fel profedigaeth … A dw i’n ddig hefyd ac yn llawn chwerwder. Fy ymateb i hyn i gyd oedd corff o waith lle mae nifer o chwaraewyr criced yn gwisgo’u dillad gwyn – dillad traddodiadol y gêm – ond yn dal gwrthrychau anghydweddol hefyd: pethau credadwy ond anarferol. Cafodd y lluniau hyn eu hysbrydoli gan bortreadau Tuduraidd yn Lloegr, pan gyflwynid gwrthrychau symbolaidd mewn paentiadau er mwyn cyfleu cliw neu ystyr a fyddai’n gysylltiedig â’r person yn y portread. Ar y pryd, dim ond rhai pobl benodol fyddai’n deall yr arwyddocâd – y rhai hynny y bwriadwyd y gweithiau ar eu cyfer. Byddai’r symbolaeth yn gwbl annealladwy i’r gwyliwr cyfoes cyffredin.

Ar lefel ddyfnach, mae’r gwaith yn symbol o fy sefyllfa bersonol mewn amser ansefydlog, yn sownd rhwng dau ddiwylliant a dwy sefyllfa wleidyddol.