Marta Mak

VALUE


Ymweld â’r wefan

Mae’r gwaith yn archwilio syniadau am werth gwaelodol cynhyrchion cyffredin a gaiff eu taflu, fel arfer, i’r bin – pecynnau, sbwriel ailgylchadwy. Ar ôl cyflawni eu swyddogaethau cychwynnol, ymddengys bod yr eitemau hyn yn troi’n ddiwerth – ac yn dechrau achosi problemau wedi hynny. Pobl sydd yn pennu gwerth gwrthrychau – a fyddai newid barn felly, yn hynny o beth, yn chwyldroadol? A yw hi’n bosib y byddwn bob un yn newid ac troi’n alcemyddion, er mwyn ailgyflwyno gwastraff fel adnodd gwerthfawr (a hynny er gwaetha’r anwybodaeth cymdeithasol a gwleidyddol am y mater hwn)?