Nick Paton

Waves


Ymweld â’r wefan

Prosiect parhaus yw Waves lle rwy’n casglu ffotograffau gan y rhai a fu’n gwasanaethu ar fwrdd Llong Ei Mawrhydi, Campbeltown rhwng 2001 a 2005. Ces afael ar y delweddau trwy amryw o ffyrdd a ffynnonellau – facebook, ebost a gwefannau trosglwyddo data. Fe ofynais i bobol y bues i’n gwasanaethu gyda nhw i ddanfon lluniau ata i o’u teithiau morwrol ar gyfer prosiect ffotograffiaeth. Tynnwyd y lluniau rhwng glannau’r DU a’r Dwyrain Canol – ar hyd y daith trwy Fôr y Canoldir ar ymarferion hyfforddi ar gyfer dyletswyddau gweithredol gyda NATO. Mae’r delweddau yma o leoliadau a thiriogaethau a’r bobl sy’n ymddangos ynddynt yn chwarae gyda’r syniad o ddiogelu rhag, aac adnabyddiaeth o fygythiad sy’n weledol a hefyd yn anweladwy Delweddau yw’r rhain o weithlu milwrol wrth eu dyletswyddau bob dydd; maent yn byw yn eu Ewrop ei hunan, y tu fewn i Ewrop mwy, lle mae diogelwch a ffiniau’n cael eu herio a’u gwthio fwy a mwy.