Peter Finnemore

Between the Lines


Ymweld â’r wefan

Mae ‘darllen rhwng y llinellau’ yn ymadrodd ac iddo arwyddocâd llythrennol a throsiadol. Mae’n awgrymu naratifau cudd neu straeon anweledig. Mae’r prosiect hwn yn cynnig dehongliad haniaethol amgen ac ail-ystyriaeth o’r naratif newyddiadurol. Y papurau newydd yw ffynhonnell fy nelweddau. Yng nghyd-destun cyfathrebu newyddion a phrosesau ffurfio barn, mae delweddau a thestun yn arfau hyblyg a ddefnyddir i reoli naratif, i osod yr agenda ideolegol ac i hyrwyddo ‘groupthink’. Mae hwn yn faes gwleidyddol lle mae gwybodaeth, cyfosodiad a chyd-destunoli yn dod i wrthdrawiad â’i gilydd. Detritws gwybodaeth gyfryngol ffwrdd-â-hi oedd y man cychwyn, ac fe arweiniodd hynny at ddiffinio siâp, ffurf a delweddaeth realiti eiconograffig newydd.

Nod y prosiect hwn yw datgloi’r ddelwedd yn y llun, ail-werthuso naratifau sefydlog ac estyn y weithred o edrych a’r modd y caiff ystyr ei greu a’i ystyried. Yn y fan hon, mae bywyd darluniadol y llun/pennawd yn cael ei ymestyn tuag at entropi/ddiddymdra – ffurf/di-ffurf – signal/sŵn. Mae’r diddymiad creadigol hwn a’r datgloi delweddau yn troi’n weithred drawsnewidiol ddadlennol ac yn ateb o fath, lle caiff ystyron haniaethol newydd eu creu.