Phil Hatcher-Moore

#Colour Revolution


Ymweld â’r wefan

“Dymchwel y gyfundrefn gyda lliw – dyna yw ein celf”, meddai Anna Krkulj wrtha i yn ei chartref uwchlaw prifddinas Macedonia. Ers deufis, mae protestwyr ym Macedonia wedi bod allan ar y strydoedd bron bob dydd, yn mynnu diwedd ar lygredd y llywodraeth ac atebolrwydd am gamweddau a throseddau gwleidyddol. Maent wedi peintio adeiladau ledled y brifddinas fel rhan o ymgyrch a alwyd yn “Chwyldro Lliwgar”. Meddai Alexandar Bogoevski, un o arweinwyr y mudiad:  “Mae’r protestwyr yn targedu sefydliadau llywodraethol ac adeiladau sy’n gysylltiedig â phroblemau cam-lywodraethu”. Ganed Gweriniaeth Macedonia wedi dymchweliad yr hen Iwgoslafia. Mae’n wlad sydd wedi gweld llawer o wrthdaro ethnig yn y gorffenol diweddar, ond dyma’r tro cyntaf iddi weld mudiad protest sy’n tynnu pobl o wahanol ethnigau ynghyd dan un faner yn erbyn y llywodraeth. “Ni fyddwn yn goddef unrhyw drais. Credwn y gallwn ddymchwel y gyfundrefn trwy ddulliau protest di-drais”, meddai Mr Bogoevski.

Mae’r llywodraeth eisoes wedi ildio i rai o ofynion y protestwyr: Diddymwyd pardynau’r arlywydd a roddwyd i wleidyddion dan ddrwgdybiaeth o fod â rhan mewn sgandal glustfeinio anferth; a rhyddhawyd protestwyr a restiwyd a’u gorfodi i aros yn eu tai yn ystod dyddiau cynnar yr ymgyrchu.