Sion Jones

EMPTINESS / GWACTER


Mae’r gwaith yma’n tynnu ar yr arfer o fyfyrio i ddangos sut y gall pobl gyfryngu rhwng profiadau mewnol ac allanol (sydd weithiau’n gwrthdaro, weithiau’n cordeddu). Mae’n cwestiynnu’r syniad yma am natur y profiad mewnol/allanol yng nghyd-destun amodau byw ein byd cyfoes lle mae cymaint o bethau’n tynnu sylw a gorlwyth o bethau’n mynnu ymateb. Rydyn ni’n byw mewn byd sy’n fôr o ofid, straen ac ofn. Mae gwewyr meddwl yn fwy cyffredin heddiw nag erioed o’r blaen. Efallai bod hynny’n deillio o’n tuedd ni yn y byd gorllewinol i ruthro byw ac ymbellhau o’r byd naturiol.