Verena Prenner

HUMOR NEEDS THE HUMAN, ONION DOLL THE WOMAN


Ymweld â’r wefan

Am 4 mlynedd nawr ‘rydw i wedi bod yn byw mewn camp i ffoaduriaid ym Mahlesteina. Mae nifer o nosweithiau wedi’u nodi gan weithrediadau militaraidd Israelaidd ac archwiliadau tai, sy’n arwain yn aml at derfysgoedd a phrotestiadau. Yn cael fy neffro gan sŵn y terfysgoedd a’r ffrwydriadau nwy dagrau, rwy’n eistedd yn fy fflat. Mae’r ffenestri yn gollwng ac mae’r nwy dagrau yn dod i mewn i fy lle. Am eiliad, gofynnaf i mi fy hun “Beth ar y ddaear ydw i’n wneud yma?” ac rwy’n dechrau edrych ar y sefyllfa presennol.

“Dol Nionyn”

Roedd arogl y nwy dagrau yn f’atgoffa o gyngor ffrind, a ddywedodd, os wyt ti’n ei arogli, cymera nionyn, ei dorri yn y canol a’i arogli. Bydd yr olew naws o’r nionyn yn atal dy gorff rhag amsugno’r nwy dagrau. Edrychiad cyflym yn y gegein, ond ‘does ’na ddim nionod yna. Yn ôl ar y soffa yn fy lolfa, paned o dê yn fy llaw a’m llygaid yn rhythu allan drwy’r ffenest i’r tywyllwch. Yn sydyn daw’r syniad artistig imi o nionyn gwrywaidd. Cyfuniad o’r “gwaharddiedig”a’r “defnyddiol”.

Dyddiau yn ddiweddarach a chyda 15kg o nionod, un banana a gwifren 4 medr, rwy’n adeiladu dol mewn ffurf cerflun. A hithau’n 35 gradd tu allan, mae arogl “defnyddiol” y nionyn nawr yn artaith. Wythnos ar ôl diwedd y rhyfel yn Gaza mae’r bywyd dyddiol yn y camp fel pe tai wedi dod yn ôl, ond mae llun fy nol, fel adlewyrchiad ac atgof, yn aros gyda mi.

“Onion doll”

The smell of the tear gas reminded me of advice from some friends, who told me, if you smell it, take an onion, cut it in the middle and inhale it. The essential oil of the onion will prevent your body from absorbing the tear gas.  A quick look in the kitchen, but there are no onions there. Back on the old couch in my living room, a cup of tea in between my hands and my eyes are staring out of the window into the dark.  Suddenly the artistic idea of a male onion doll appears. A combination of the “forbidden” and the “helpful”.

Days later and with 15 kg of onions, a banana and 4 metre wire, I’m building my doll in the form of a sculpture. 35 degrees outside, “the helpful” smell of the onion is now becoming a torture. A week after the end of the Gaza war the daily life in the camp seems to be back, but the picture of my doll, as an artistic reflection and memory, stays with me.