Wytske van Keulen

STICK HOLDING BRANCH


Ymweld â’r wefan

Mae fy ngwaith yn codi o gyfarfyddiadau personol. Drwy fy ngwaith rwy’n ymchwilio’r cyflwr dynol, y dewisiadau mae pobl yn eu gwneud yn gysylltiedig â’u bywydau personol a’r canlyniadau i’r dewisiadau hynny. Mae canolbwynt y gwaith yn delio â chwestiynau dirfodol. Sut yr ydym ni, fel pobl, wedi dod at yr hyn yr ydym yn awr ac am beth yr ydym yn chwilio? Dros y blynyddoedd diwethaf ‘rydw i wedi bod yn cymryd lluniau o nifer o bobl sydd, am rhesymau amrywiol, wedi dewis troi eu cefnau ar ein cymdeithas (fodern) ac sydd mewn rhyw ffordd wedi rhoi o’r neilltu yn fwriadol ein byd economiedig cryf ac an-ysbrydoliedig. Wrth ddelweddu bywyd y bobl yma mae cwestiynau yn codi am sefyllfa ein bywydau ein hunain, hanes a’r dewisiadau yr ydym yn eu gwneud mewn bywyd.

I’r gyfres ddiweddaraf Stick Holding Branch teithiais o gwmpas Ffrainc, Siapan ac Unol Daleithiau yr Amerig yn casglu cynrychiolaeth o’r ‘eneidiau rhydd’ ac yn darganfod ymgysylltiad cryfach rhyngddynt. Boed hynny yn ymgeisio byw o’r ddaear mewn pabell ar lan afon (Michelle, Eus, FR), dianc o bwysau a phrysurdeb dinasoedd metropolitanaidd i fyw yn y wlad gyda dŵr naturiol ac aer glân (Teulu Sadaoka, Kamiyama, JP), neu creu cartref anarchiaidd yn rhydd o hil, cefndiroedd hanesyddol rhywiol a chymdeithasol (Tŷ Feral, Boise ID, US). Gwelaf y ffyrdd hyn o fyw fel dull o ymwrthod. Mae Stick Holding Branch yn dangos yn y pen draw inni gymuned byd-eang o unigolion a ddewisodd eu llwybr eu hunain mewn bywyd , gan roi heibio disgwyliadau uchel cymdeithas a dilyn eu delfrydau.