Mehdi Bahmed

ENTRE-DEUX (INTERVAL)


Ymweld â’r wefan

Ffoaduriaid o Syria, Irac, Affganistan; ymosodiadau terfysgol ym Mharis, Brwsel, Nice, Berlin; ymosodiadau rhywiol ar Nos Galan yn Cologne; cynnydd populism adain dde yn Ewrop; mae’r rhain i gyd yn faterion cyfredol sy’n cael sylw blaenllaw yn y gyfres hon o ffotograffau.

Er gwaetha’ digwyddiadau cyfoes sydd yn aml yn drasig, ac sydd yn treiddio i’n bywydau bob dydd ni mewn adroddiadau newyddion syfrdanol, dw i’n gwbl sicr bod angen i ni archwilio teimladau, rhwystredigaethau, siomedigaethau a chamdybiaethau llawer iawn o bobl Fwslemaidd a phobl yn y byd Arabaidd (heb ychwaith wadu cyfrifoldeb y byd hwnnw, a heb geisio portreadu Mwslemiaid fel dioddefwyr). Os nad awn ni ati i geisio deall y tyndra hwn rhwng y Gorllewin a’r byd Arabaidd, ac i ddeall anobaith Mwslemiaid, gwelwn ddatblygiad pellach ymatebion radical. Mae galluogi pobl yn y Gorllewin i ddeall rôl anodd pobl Arabaidd yn y gwrthdaro hwn, ac adeiladu pontydd rhwng y ddau fyd, yn hanfodol bwysig wrth geisio sicrhau bywyd heddychlon i bobl y ddau ddiwylliant.